Rydyn ni eisoes wedi rhyddhau dau bodlediad yn ein cyfres byr wrth edrych ar wrthwynebwyr Cymru yn yr Ewros, gyda Slofacia ac yna Lloegr yn cael y sylw.

Heddiw tro Rwsia yw hi, y tîm y bydd Cymru’n eu hwynebu yn Toulouse ar 20 Mehefin yn eu trydedd gêm yng Ngrŵp B.

Fe lwyddodd tîm Leonid Slutsky orffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol, ac mae Owain Schiavone ac Iolo Cheung yn bwrw golwg dros eu carfan gan asesu pa fath o fygythiad allen nhw’i gynnig i Gymru yn y twrnament.

Cofiwch y gallwch chi lawrlwytho’n holl bodlediadau os ydych chi’n teithio draw i Ffrainc – gan gynnwys ein podlediad hirach ag Owain, Iolo a Tommie Collins yn trafod gobeithion Cymru, y newyddion diweddaraf, a rhai o brif dimau eraill y gystadleuaeth.