Mae’r wythnos fawr wedi’n cyrraedd ni o’r diwedd – ar ôl yr holl aros (58 mlynedd i fod yn fanwl) fe fydd cefnogwyr Cymru’n cael y cyfle i wylio’u tîm yn chwarae mewn rowndiau terfynol pencampwriaethau pêl-droed y penwythnos yma!

Rydyn ni wedi bod yn dilyn hynt a helynt tîm Chris Coleman yn agos wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Ewro 2016, ac fe fydd hynny’n parhau drwy gydol y twrnament yma ar golwg360.

Ond beth ydyn ni’n ei wybod am wrthwynebwyr cyntaf y crysau cochion, Slofacia?

Bydd y ddau dîm yn herio’i gilydd yn Bordeaux ddydd Sadwrn – ac fel rhyw ganllaw bach i chi wrth i ni edrych ymlaen at y gêm, mae Owain Schiavone ac Iolo Cheung wedi recordio podlediad byr yn bwrw golwg dros y Slofaciaid.

Croeso i chi wrando nawr, neu lawrlwytho’r pod ar gyfer y siwrne draw i Ffrainc os ydych chi’n mynd!

Fe fyddwn ni hefyd yn rhyddhau podlediadau tebyg ar y gwrthwynebwyr eraill yn y grŵp, Lloegr a Rwsia – a chofiwch gadw llygad am rai ychwanegol gan Owain, Iolo, y cyfranwyr rheolaidd a rhai o’r cefnogwyr allan yn Ffrainc: