Wrth i ni agosáu at ddechrau Ewro 2016 ddydd Gwener mae criw pod pêl-droed golwg360 wedi bod yn dilyn hynt a helynt tîm Chris Coleman gyda thridiau yn unig nes eu gêm gyntaf nhw.

Mae Owain Schiavone ac Iolo Cheung eisoes wedi recordio un podlediad yn trafod gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn y grŵp, Slofacia – ac nawr mae’r sylw’n troi at yr hen elyn.

Ie, y Saeson fydd y gwrthwynebwyr yn Lens ddydd Iau 16 Mehefin, gyda’r crysau cochion yn hen ddigon cyfarwydd â’u chwaraewyr nhw gan eu bod nhw wedi wynebu sawl un yn Uwch Gynghrair Lloegr dros y blynyddoedd.

Cofiwch, gallwch wrando ar y pod nawr, neu ei lawrlwytho ar gyfer y siwrne draw i Ffrainc os ydych chi’n mynd!

Gallwch hefyd wrando nôl ar y podlediad yn trafod Slofacia, gyda’r un olaf am Rwsia i ddilyn – ac fe fydd mwy i ddod gan Owain, Iolo, y cyfranwyr rheolaidd a rhai o’r cefnogwyr allan yn Ffrainc: