Tridiau yn unig sydd i fynd, ac mae carfan Cymru eisoes yn brysur wrth eu paratoadau cyn wynebu Slofacia yn eu gem agoriadol yn Ewro 2016 ddydd Sadwrn.

Mae hyd yn oed rhai o’r cefnogwyr wedi dechrau teithio bellach, ac fe fydd miloedd yn rhagor yn ymuno â nhw yn Bordeaux erbyn y penwythnos wrth i’r ddinas Ffrengig baratoi i groesawu’r Cymry yn eu niferoedd.

Beth well i’w wneud felly na gwrando ar bodlediad mawr olaf golwg360 yn edrych ymlaen at yr Ewros, gan drafod gobeithio Cymru a’r newyddion diweddaraf am y garfan yn ogystal â chymryd cip ar dimau eraill y gystadleuaeth?

Owain Schiavone, Iolo Cheung a Tommie Collins sydd yn ymuno â chi heddiw – ac fe fydd y tri ohonynt, yn ogystal â sylwebwyr a chefnogwyr eraill, yn recordio rhagor o bodlediadau i golwg360 yn Ffrainc dros yr wythnosau nesaf.

Gallwch hefyd wrando ar ein cyfres fer o bodlediadau yn canolbwyntio’n unigol ar wrthwynebwyr Cymru yn eu gemau grŵp – a chofiwch lawrlwytho’r cyfan i’ch dyfais symudol os na chewch chi gyfle i wrando cyn i chi deithio!