Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth plentyn yn Nhrealaw yng Nghwm Rhondda nos Wener wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dynes 37 oed.
Cafodd y ddynes ei harestio ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gorff y plentyn, sydd wedi’i henwi’n lleol fel Amelia Harris.
Mae’r heddlu’n aros am ganlyniadau archwiliad post-mortem, sy’n cael ei gynnal heddiw, er mwyn darganfod sut y bu’r plentyn farw.
Ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi rhagor o fanylion hyd yn hyn.
Mae’r heddlu wedi ategu eu rhybudd am sylwadau sy’n cael eu gwneud ar wefannau cymdeithasol, a allai amharu ar achos llys yn y dyfodol.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.