Mae Heddlu’r De wedi rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth ddefnyddio gwefannau cymdeithasol i drafod marwolaeth plentyn yn Nhrealaw yng Nghwm Rhondda.

Cafwyd hyd i gorff plentyn am oddeutu 10.20 nos Wener, ac mae dynes 37 oed yn y ddalfa mewn perthynas â’r achos.

Ond dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau unrhyw fanylion eraill hyd yn hyn.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i farwolaeth y plentyn, a bod ystafell ymchwilio wedi’i sefydlu.

‘Cyfrifol’

Mae’r heddlu’n cynnig cefnogaeth i’r teulu, meddai’r llefarydd, gan annog pobol leol i “beidio â dyfalu ynghylch y digwyddiad” ac i fod yn “gyfrifol wrth bostio cynnwys ar wefannau cymdeithasol”.

Rhybuddiodd y dylai pobol “feddwl yn ofal am ganlyniadau negeseuon” a “sut maen nhw’n effeithio pobol eraill”.

Ychwanegodd y byddai “camau positif yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw un sy’n postio negeseuon sy’n ymosodol, bygythiol neu’n sarhaus”.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynghylch y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101.