Mae adroddiadau lleol yn awgrymu mai Amelia Harris yw enw’r ferch fach y cafwyd hyd i’w chorff mewn eiddo yn Nhrealaw yng Nghwm Rhondda.

Cafodd yr heddlu eu galw am 10.20 nos Wener, ac mae dynes 37 oed yn parhau i gael ei holi yn y ddalfa.

Yn ôl yr heddlu, does ganddyn nhw ddim esboniad am ei marwolaeth, ac maen nhw wedi rhybuddio pobol i fod yn gyfrifol wrth drafod y digwyddiad ar wefannau cymdeithasol.

Mae teyrngedau wedi’u gadael y tu allan i’r eiddo lle cafwyd hyd i gorff y plentyn.

Dydy’r heddlu ddim wedi cyhoeddi manylion am y plentyn na’r ddynes sydd yn y ddalfa.