Wrth i wleidyddion ailymgynnull yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth (Tachwedd 14), bydd Aelodau Cynulliad yn rhoi teyrngedau i Carl Sargeant.

Cafodd Carl Sargeant, 49, ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Conna, ddyddiau’n unig wedi iddo gael ei wahardd o’r Blaid Lafur a cholli ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant.

Roedd wedi’i wahardd yn sgil honiadau ei fod wedi cyffwrdd yn amhriodol a nifer o ferched.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, eisoes wedi gofyn am gynnal ymchwiliad annibynnol i graffu ar ei “weithredoedd a’i benderfyniadau” wrth wahardd y gweinidog.

Crogi oedd achos marwolaeth yr Aelod Cynulliad, yn ôl dyfarniad cychwynnol y crwner mewn cwest i’w farwolaeth ddydd Llun (Tachwedd 13).

Bydd Aelodau Cynulliad yn cyfarfod am 12.30yh i dalu teyrngedau, ac yn dilyn hynny fe fydd sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog.

Fe fydd teulu Carl Sargeant yn y Senedd i wrando ar y teyrngedau.