Crogi oedd achos marwolaeth yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant, yn ôl dyfarniad cychwynnol y crwner mewn cwest i’w farwolaeth heddiw.

Cafodd y cwest yn Rhuthun ei agor a’i ohirio.

Cafodd Carl Sargeant, 49 oed, ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Conna, gan ei wraig, Bernadette, ddyddiau’n unig wedi iddo gael ei wahardd o’r Blaid Lafur a cholli ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant.

Roedd yn dilyn honiadau ei fod wedi cyffwrdd yn amhriodol a nifer o ferched.

Clywodd Llys y Crwner Rhuthun bod Bernadette Sargeant wedi dod ar draws nodyn ar ddrws ystafell yn y tŷ  – nodyn mewn llawysgrifen ei gŵr yn ei chynghori i beidio mynd i mewn i’r ystafell ac i gysylltu â’r heddlu.

“Er gwaethaf hynny, aeth hi i mewn i’r ystafell a chanfod ei gŵr ar y llawr yn dilyn yr hyn ymddangosir fel gweithred o hunan-niweidio,” meddai’r Uwch-Grwner dros ogledd Cymru, John Gittins.

Gwnaeth gwraig Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy geisio ei adfer, ynghyd ag aelodau eraill o’r teulu a pharafeddygon, ond bu farw yn y fan a’r lle.

Astudio “gofalus”

Mae’r Crwner  John Gittins wedi dweud y bydd yn gofyn am ddatganiadau gan deulu Carl Sargeant; y Prif Weinidog, Carwyn Jones; ac “eraill yn y Cynulliad o bosib”.

Dywedodd y byddai’n “astudio’n ofalus, y camau cymerwyd gan y Cynulliad i ystyried lles meddyliol Mr Sargeant cyn ei farwolaeth”.

Oherwydd yr ymchwiliad annibynnol sydd wedi’i gyhoeddi gan Carwyn Jones, does dim modd i’r Crwner osod dyddiad ar gyfer ailddechrau’r cwest.