Neil McEvoy
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi cael caniatâd i ailymuno â grŵp y blaid yn y Senedd wedi cyfnod o waharddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru, “mae grŵp Plaid Cymru wedi cytuno i roi’r chwip yn ôl i AC Canol De Cymru, Neil McEvoy.”
Esboniodd y llefarydd fod hynny’n dilyn datganiad gan yr Aelod Cynulliad yn nodi ei fod yn “parchu” apêl a phenderfyniad y Panel Dyfarnu.
Panel Dyfarnu
Mewn datganiad dywedodd Neil McEvoy, “rwyf wedi adlewyrchu ar benderfyniad y Panel Dyfarnu.
“Nid wyf yn difaru amddiffyn mam sengl a’i merch oedd yn wynebu cael eu troi allan yn ddiangen. Rwy’n parhau i fynnu nad oedd fy sylwadau wedi eu cyfeirio at swyddog y Cyngor, ond rwy’n cydnabod ei bod hi wedi dweud fod fy sylw wedi peri gofid iddi ac rwy’n ymddiheuro am hynny,” meddai.
“Gwnaed y cwyn yn ddiweddarach gan gynghorydd Llafur, ac rwy’n parhau i gredu fod ysgogiad gwleidyddol y tu ol i’r cwyn hwnnw. Rwy’n archwilio gyda fy nhîm cyfreithiol yr opsiwn o gael adolygiad barnwrol gan yr Uchel Lys o benderfyniad y Panel Dyfarnu. Byddaf yn parchu penderfyniad yr apêl honno.”
Esboniodd Plaid Cymru fod y gwaharddiad dros dro hwnnw’n ymwneud â’r Panel Dyfarnu – “ac mae’r Grŵp yn ystyried hyn yn ddiwedd ar y mater.”
Cefndir
Fe gafodd Neil McEvoy ei wahardd yn wreiddiol am fis fel cynghorydd ar Gyngor Caerdydd gan Banel Dyfarnu Cymru o ganlyniad i achos o “fwlian” aelod o staff y Cyngor yn 2015.
Wedi hynny, fe gyhoeddodd Plaid Cymru y bydden nhw’n ei wahardd dros dro o’r grŵp yn y Cynulliad ac y byddai’n colli’i rôl yn llefarydd y blaid ar Chwaraeon a Thwristiaeth.