Neil McEvoy
Mae Aelod Cynulliad Llafur wedi galw ar Blaid Cymru i wahardd yr Aelod Cynulliad Neil McEvoy, wedi i dribwnlys farnu ei fod wedi bwlio un o weithwyr Cyngor Caerdydd.

Yn ôl Rhiannon Passmore, AC Llafur Islwyn, dylid diarddel Neil McEvoy o Blaid Cymru tra bod y Blaid yn ymchwilio i’w ymddygiad.

Heddiw mae Panel Dyfarnu Cymru wedi casglu fod Neil McEvoy wedi bwlio aelod o staff tra’n aelod o Gyngor Caerdydd yn 2015.

“Mae’r drosedd hon yn un ddifrifol a dylai Leanne Wood ddangos i’w phlaid nad yw yn derbyn bwlio,” meddai Rhiannon Passmore.

Mae’r tribiwnlys wedi dyfarnu bod Neil McEvoy wedi bwlio’r aelod staff, Deborah Carter, trwy fygwth diogelwch ei swydd. Ond nid oedd wedi dwyn anfri ar Gyngor Caerdydd, yn ôl y panel.

Cynllwyn Llafur

Mae Neil McEvoy bellach wedi cyhoeddi datganiad yn ymateb i ddyfarniad y tribiwnlys gan gyfeirio at yr achos fel ‘show trial’ gan y Blaid Lafur.

“Hoffwn gyfleu fy nirmyg llwyr tuag at achos sydd newydd fod,” meddai. “Doedd gen i ddim hawl i alw ar fwy nag un tyst a doedd dim hawl gennyf i alw ar y gwleidydd Llafur wnaeth wneud y gŵyn yn y lle cyntaf. Cafodd datgeliad llwyr o e-byst ei wrthod.

“Roedd yr achos yn gynllwyn gan y Blaid Lafur. Roedd y barnwr a’r rheithgor wedi eu hapwyntio gan weinidogion Llafur…  Rydym yn byw mewn gwlad sydd wedi’i rheoli gan un blaid yng Nghymru, ac mae rhaid do a hyn i ben trwy etholiadau.”

Ymateb Leanne Wood

Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y bydd hi’n ystyried dyfarniad y panel disgyblu cyn penderfynu beth i’w wneud gyda Neil McEvoy.

Pan holodd golwg360 Leanne Wood a fyddai hi yn rhoi ei chefnogaeth lawn iddo, fe ddywedodd hi: “Hoffwn weld y manylion o’r hyn oedd yn cael ei ddweud yn y panel heddiw. Dw i heb ddilyn yr achos mor agos â hynny felly cyn gwneud sylw fel hynny, hoffwn edrych ar y manylion.

“Mae gennym ni fecanweithiau o fewn y blaid i edrych ar yr holl bethau hynny. Bydd trafodaeth o fewn y blaid nawr yng ngoleuni beth ddigwyddodd yn y panel. Dw i heb weld hynny heddiw felly byddwn ni’n edrych ar fanylion hynny ac yn gwneud penderfyniad maes o law.

“Mae materion fel hyn yn codi o dro i dro ac maen nhw’n cael eu trin yn y ffordd fwya’ priodol i ymateb.”