Neil McEvoy yn ymgyrchu (o fideo ganddo ar YouTube)
Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi’i wahardd dros dro o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Daw hyn wedi i’r grŵp gyhoeddi y bydd hefyd yn colli’i rôl yn llefarydd y blaid ar Chwaraeon a Thwristiaeth, a hynny wedi galwadau am iddo gael ei atal.

Fe gafodd ei wahardd am fis fel cynghorydd ar Gyngor Caerdydd gan Banel Dyfarnu Cymru yr wythnos ddiwethaf o ganlyniad i achos o “fwlian” aelod o staff y Cyngor yn 2015.

Colli’i ddyletswyddau

Mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru: “Gyda chytundeb Neil, mae grŵp Plaid Cymru wedi penderfynu y dylai gael ei wahardd dros dro o’r grŵp tra bo cytundeb yn cael ei drafod ar y ffordd ymlaen yn dilyn digwyddiadau diweddar.

“Cyn cyfarfod y grŵp, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, gyfarfod â Neil McEvoy a chymryd y penderfyniad i’w ddiarddel o’r cabinet cysgodol a thynnu’n ôl ei ddyletswyddau portffolio,” meddai’r datganiad.

Adeg Cynhadledd Wanwyn y Blaid yng Nghasnewydd dros y Sul, roedd rhai aelodau yn gwrthdystio i ddangos cefnogaeth i’r AC rhanbarthol a ddaeth yn agos at gipio sedd Gorllewin Caerdydd yn 2016.

McEvoy’n ceisio cyngor cyfreithiol

Mewn ymateb y prynhawn yma, mae’r Aelod Cynulliad wedi dweud nad yw am ymddiheuro am “sefyll i fyny” dros ei etholwr yn yr achos gwreiddiol gan ddweud y bydd yn mynd â’r achos hwnnw i’r Uchel Lys “i ddangos fy mod yn gwneud y peth iawn.”

“Ni allaf ddweud mwy ar hyn o bryd. Mae hwn yn waharddiad dros dro tan fy mod i a’r grŵp yn gallu cytuno ar ddatganiad gyda’n gilydd,” meddai Neil McEvoy.

“Rydyn ni’n unedig fel grŵp ond mae angen imi gymryd cyngor cyfreithiol cyn inni gytuno ar ein datganiad felly mae’n iawn fy mod wedi cael fy ngwahardd dros dro tan hynny.

“Fe allwn i fod yn ôl gyda’r grŵp o fewn rhai oriau ond mae’n rhaid imi siarad â fy Margyfreithiwr yn gyntaf,” ychwanegodd.