Neil Hamilton AC Ukip Llun: Senedd.tv
Wrth i sesiwn cyntaf Cwestiynau’r Prif Weinidog ddechrau yn y Senedd y prynhawn yma, fe wnaeth Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, feirniadu “iaith rywiaethol” Aelod Cynulliad Ukip yr wythnos diwethaf.

Roedd Neil Hamilton wedi cyhuddo dwy o wleidyddion blaenllaw’r Cynulliad, Leanne Wood a Kirsty Williams, o fod yn “harîm Carwyn Jones” wedi iddyn nhw gefnogi ei benodiad fel Prif Weinidog.

Ni wnaeth y Llywydd feirniadu ei sylwadau ar y pryd, er eu bod wedi ennyn ymateb chwyrn ar wefannau cymdeithasol.

Ond, yn ei datganiad agoriadol heddiw, fe ddywedodd Elin Jones fod sylwadau o’r fath yn “annerbyniol” ac yn syrthio “islaw rheolau sefydlog y Cynulliad.”

Fe dderbyniodd Neil Hamilton y feirniadaeth gan ddweud nad oedd wedi bwriadu “peri loes” gyda’i sylwadau.

Cwestiynau

Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon, Siân Gwenllian, oedd y cyntaf i holi’r Prif Weinidog ynglŷn â chynlluniau’r Llywodraeth i hyfforddi meddygon newydd a’r posibilrwydd o gael ysgol feddygol ym Mangor.

Roedd y cwestiynau eraill a gafodd eu codi yn gofyn am fanylion ac amserlen i gynllun yr M4 o gwmpas Casnewydd ynghyd ag amserlen etholiadau Llywodraeth leol y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal, fe ofynnodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, a fyddai delio â’r dicáu mewn gwartheg yn flaenoriaeth i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, sef Lesley Griffiths.

‘Cam da’

Yn ogystal, fe wnaeth Neil Hamilton longyfarch penodiad Kirsty Williams fel Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, ond dywedodd fod hynny’n gadael “problem ddemocrataidd” oherwydd y byddai wedi’i chlymu i gyfrifoldeb y Cabinet ac yn ymdebygu at “Aelod Cynulliad Llafur.”

Ond, fe gadarnhaodd Carwyn Jones bod Kirsty Williams yn parhau’n Aelod Cynulliad i’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac fe wnaeth y cyn-Ddirprwy Lywydd, David Melding, ddweud fod penodiad Kirsty Williams yn “gam da” i wleidyddiaeth Cymru.