Neil Hamilton yn siarad yn y Senedd heddiw (llun:senedd.tv)
Mae Neil Hamilton wedi cael ei gyhuddo o ddefnyddio iaith rywiaethol ar ôl iddo gyhuddo dwy o wleidyddion benywaidd blaenllaw’r Cynulliad o fod yn “harîm Carwyn Jones.”

Roedd arweinydd UKIP yn y Senedd yn ymateb mewn araith ar ôl i Carwyn Jones gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog, gan feirniadu arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, a’r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams, am ei gefnogi.

Ond yn ei sylwadau fe gyfeiriodd at y ddwy fel “gorddechwragedd (concubines) gwleidyddol yn harîm Carwyn”, gan ennyn ymateb chwyrn yn y siambr yn ogystal ag ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ni chafodd y sylw ei herio gan y Llywydd Elin Jones ar y pryd, ond ers hynny mae Kirsty Williams wedi trydar neges o ymateb i Neil Hamilton yn ei gyhuddo o ddefnyddio iaith oedd yn sarhaus i ferched.


Mae Leanne Wood hefyd wedi ymateb bellach gan ddweud nad oes unrhyw le i iaith sarhaus o’r fath yn y Cynulliad.


Ymateb Leanne Wood yn y Senedd heddiw yn dilyn sylwadau Neil Hamilton (llun:senedd.tv)
Yn ei sylwadau fe ddywedodd Neil Hamilton ei fod hefyd yn cytuno â sylwadau a wnaeth y cyn-weinidog Leighton Andrews ar ddiwedd y Senedd diwethaf fod Leanne Wood a Phlaid Cymru yn “cheap date”.

Er gwaethaf y feirniadaeth fodd bynnag mae’r gwleidydd UKIP eisoes wedi dweud nad yw’n difaru’r sylwadau a wnaeth yn y Siambr – gan drydar linc o’i gyfrif Twitter yn annog pobol i ailwylio’i araith.

‘Mater i’r Llywydd’

Mae’r Ceidwadwyr wedi ymateb i’r sylwadau hefyd bellach, gan awgrymu y dylai’r Llywydd newydd Elin Jones weithredu os ydi hi’n teimlo bod rhywun yn defnyddio iaith amhriodol yn y Senedd.

“Nid yw’r Ceidwadwyr Cymreig mewn unrhyw ffordd yn goddef iaith neu ymddygiad diraddiol i fenywod,” meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Cyfrifoldeb Llywydd y Cynulliad yw penderfynu pa iaith a ellir ei defnyddio yn y siambr.”