Siân Gwenllian AC Arfon (Llun: Cyfrif Twitter Siân Gwenllian)
Aelod Cynulliad newydd Arfon fydd yn cael y cyfle i fod y cyntaf ym mhumed tymor y Cynulliad i ofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog y bore ‘ma.

Mae disgwyl i Siân Gwenllian, un o wynebau newydd y Senedd, holi Carwyn Jones dros gynlluniau’r llywodraeth ynglŷn â hyfforddi meddygon newydd.

Bydd yn gofyn am fwy o fanylion o’r cynlluniau i hyfforddi meddygon newydd a hefyd yn ceisio dechrau trafod y posibilrwydd o gael ysgol feddygol ym Mangor.

‘Ysgol feddygol i’r gogledd’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd fod y trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru’r wythnos ddiwethaf wedi sicrhau cytundeb oedd yn cynnwys ymroddiad Llafur i ddechrau cynllunio am fwy o feddygon yng Nghymru.

“Felly dwi’n codi cwestiwn ynghylch hynny ac yn holi a fydd y cynlluniau yn cynnwys cychwyn trafod yr angen am ysgol feddygol i’r gogledd ym Mangor,” meddai.

Roedd sefydlu ysgol feddygol ym Mangor, a fyddai’r drydedd ysgol feddygol yng Nghymru,  yn rhan o faniffesto Plaid Cymru cyn etholiadau’r Cynulliad ac yn “flaenoriaeth” i Siân Gwenllian yn ystod ei hymgyrch leol, meddai.

“Maen nhw wedi addo cynllunio ar gyfer hyfforddi am fwy o feddygon felly gobaith ni yn sgil hwnna rŵan yw gweld yn union sut maen nhw’n mynd i wireddu hynny a lle mae ysgol feddygol i Fangor yn ffitio i mewn i’r cynllun.”

Bydd hefyd, meddai, yn holi am “gynlluniau eraill” Llywodraeth Cymru, “ar gyfer cynyddu llefydd sydd ar gael er mwyn hyfforddi i fynd yn feddyg yng Nghymru.”

‘Rhestrau aros a phrinder meddygon teulu’

Mae hyfforddi a recriwtio mwy o feddygon yng Nghymru yn dal i fod yn rhan o gynlluniau Plaid Cymru meddai, “er mwyn dod â rhestrau aros i lawr mewn ysbytai ac er mwyn diwallu’r angen sydd ‘na am feddygon teulu yn yr ardaloedd trefol a gwledig.”

“Mae’n rhaid i ni fod yn meddwl ymlaen i hyfforddi meddygon o’r newydd, yn ogystal â recriwtio meddygon a staff proffesiynol eraill yn y gwasanaeth iechyd.

“Ond dwi (heddiw) yn mynd yn benodol ar gyfer yr ochr hyfforddi ond mae’r ochr recriwtio yn bwysig ofnadwy wrth gwrs.

“’Da ni’n clywed am hanesion am feddygfeydd yn gorfod dod â’u cytundebau i ben efo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae hynny’n peri pryder mawr achos dydy’r gwasanaeth cyflawn ddim ar gael wedyn ar gyfer pobol sy’n (byw) mewn ardaloedd gwledig.”