Mae’n “ddiwedd cyfnod” i un o gylchgronau llenyddol Cymru heddiw, wrth i ddigwyddiad cael ei gynnal ym Mangor i ddweud ‘ta-ta’ wrth Taliesin.

Daeth y newyddion y bydd cylchgrawn Taliesin yn dod i ben ym mis Medi, ar ôl i’r cylchgrawn fethu â sicrhau grant pellach gan y Cyngor Llyfrau.

Cylchgrawn newydd, O’r Pedwar Gwynt, dan arweiniad Owen Martell a Sioned Puw Rowlands, fydd yn dod yn ei le, a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae’n ddiwedd cyfnod ac mae’n od meddwl bod ‘na ddim Taliesin yn mynd i fod,” meddai Angharad Elen, sydd wedi bod yn cyd-olygu’r cyhoeddiad â Siân Melangell Dafydd ers chwe blynedd.

Cawl a prosecco

Er hynny, bydd y ‘parti’ yng nghaffi Blue Sky ym Mangor, yn noson “hwyliog” meddai, gyda darlleniadau o’r gyfrol olaf, canu, celf a prosecco a chawl.

Yn y gyfrol ddiweddaraf, sydd dan destun Stori a Chwedl, mae cyfraniadau gan awduron fel Tony Bianchi, Llŷr Titus, Manon Steffan Ros, Robin Llywelyn a Siân Northey.

Am y tro cyntaf hefyd, mae modd gwrando ar ddarlleniadau o’u gwaith llenyddol ar wefan soundcloud, lle mae’r cylchgrawn wedi recordio’r actorion Simon Watts a Rhian Blythe yn eu darllen.

Mae pennod gyntaf o nofel gyntaf y bardd Twm Morys yn y cylchgrawn diwethaf hefyd, a bydd yr awdur yn darllen ychydig o’i waith yn y digwyddiad.

Bydd Twm Morys hefyd yn canu alawon gwerin gyda Gwyneth Glyn ar y noson, yn ogystal â hynny, bydd cystadleuaeth stori fer iawn – 10 gair, gwobrau a gwaith celf gan yr artist John Abell.

 ‘Un o’r jobsys gorau yn y byd’

“Mae ‘di bod yn brofiad brilliant,” meddai Angharad Elen am ei chyfnod yn gweithio ar y cylchgrawn, oedd yn gwerthu rhyw 700 copi fesul rhifyn.

“Dwi’n teimlo rhyddhad ar hyn o bryd achos roedd pob eiliad sbâr yn arfer cael ei lyncu gan y gwaith ond dwi’n gwybod hefyd fydd hi ddim yn hir tan fyddai’n hiraethu.”

“Ro’n i’n ymwybodol bod gennyf i un o’r jobsys gorau yn y byd. Oedd o’n fraint bod y cyntaf i ddarllen gwaith awduron, a chael trafod a rhoi sylwadau ar waith rhai fy arwyr i, fel Mihangel Morgan, Robin Llywelyn ac Angharad Price.”

Llwyfan i awduron ifanc

Yn ôl Angharad Elen, roedd y cylchgrawn hefyd yn rhoi llwyfan i awduron newydd yn ogystal â rhai profiadol,

“Pan oedd Manon Rhys a Christine James yn golygu’r cylchgrawn, ges i fy ngwahodd i gyfrannu a ro ni’n meddwl “O mai god, Taliesin – I’ve made it!”

“Mae’n mor bwysig i roi llwyfan i awduron newydd i deimlo bod nhw’n cael rhannu’r un gofod ag awduron mwy profiadol.”

Dyna fydd yn cael ei wneud gan y cylchgrawn ar-lein Y Neuadd, meddai, lle fydd hithau a Siân Melangell yn parhau i’w gyd-olygu.

Mae’r trefnwyr yn disgwyl rhyw 50 o bobol i’r digwyddiad heno ac mae tocynnau’n dal ar gael o siop lyfrau Palas Print.