Mae Llenyddiaeth Cymru wedi gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan unigolion neu sefydliadau i “weithio mewn partneriaeth ar gylchgrawn llenyddol sy’n adeiladu ar hanes y cylchgronau Taliesin ac Y Neuadd.”

Daw’r cyhoeddiad hwn wythnos ar ôl y newyddion nad oedd Taliesin wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau grant gan y Cyngor Llyfrau ar ôl methu penodi golygyddion.

Yn y gwahoddiad, mae Llenyddiaeth Cymru’n dweud ei bod yn “datblygu syniadau ar gyfer y cylchgrawn sy’n cyflawni uchelgais y sefydliad i ddatblygu talentau awduron newydd a phrofiadol.”

‘Ymestyn y gynulleidfa’

Maen nhw hefyd am weld y cylchgrawn llenyddol yn “ymestyn y gynulleidfa sydd i lenyddiaeth newydd ac ehangu’r drafodaeth ar lenyddiaeth a hefyd i osod llenyddiaeth o Gymru o fewn cyd-destun rhyngwladol.”

Bydd y cwmni cenedlaethol yn cyflwyno cais i gronfa Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer ‘cylchgrawn llenyddol cyffredinol’.

Nid oedd Llenyddiaeth Cymru am wneud sylw ar y broses a doedden nhw ddim am gadarnhau os bydd cylchgrawn llenyddol newydd yn dod yn lle Taliesin ac Y Neuadd.

Mae’r broses o gyflwyno datganiadau o ddiddordeb yn cau am 5yh, ddydd Gwener 2 Hydref.