Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi pa gylchgronau a lwyddodd i gael grant gan y corff cenedlaethol dros gyfnod y drwydded nesaf, sef tair blynedd o fis Ebrill 2016 ymlaen, gyda’r nod o “ehangu’r dewis o ddarpariaeth i ddarllenwyr”.

Ymhlith y rhestr mae dwy fenter newydd, sef Melin, menter ddigidol i grynhoi a dosbarthu newyddion cyfoes, a Mellten, comic i blant a phobl ifanc a fydd yn cael ei greu gan y cartwnydd, Huw Aaron, a’i gynhyrchu gan Y Lolfa.

Bydd tri chyhoeddiad cwmni Golwg yn derbyn cyfanswm o £121,000 y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf, sef Golwg (£73,000), WCW (£30,000) a Lingo (£18,000).

“Rydym fel Panel yn hynod o falch o ganlyniad y broses a chredwn fod nawdd y Cyngor Llyfrau wedi llwyddo i gefnogi ystod eang ac amrywiol o gyhoeddiadau,” meddai’r Athro Gerwyn Wiliams, Cadeirydd y Panel.

“Mewn cyfnod anodd o ran cyllido a gwerthiant cylchgronau’n gyffredinol mae’n braf gweld y diwydiant yn ymateb gyda syniadau newydd sbon a pharodrwydd i ymateb i her y byd digidol.”

Cylchgrawn Taliesin heb lwyddo i gael arian

Er hynny, doedd y corff methu â dyfarnu arian i’r cylchgrawn llenyddol, Taliesin, gan “nad oedd y cais a ddaeth i law wedi gallu penodi golygyddion”.

Sefydlwyd Taliesin gan yr Academi Gymreig dan law Bobi Jones a Waldo Williams a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn 1961.

Mae Taliesin erbyn hyn dan law Llenyddiaeth Cymru, a’r golygyddion yw Siân Melangell Dafydd ac Angharad Elen. Daw eu cyfnod fel golygyddion i ben ym mis Mawrth 2016 ac mae Llenyddiaeth Cymru yn barod wedi hysbysebu am olygydd neu olygyddion newydd.

Mae’r Cyngor Llyfrau wedi dweud y byddan nhw’n ail-hysbysebu am gais gan Taliesin a gan unrhyw gylchgrawn arall sydd am gyflwyno cais oherwydd bod y Panel dyfarnu yn “teimlo ei bod yn bwysig bod darpariaeth yn y maes hwn ac er mwyn bod yn deg â’r holl ymgeiswyr posibl,” ac wedi neilltuo £20,000 o’r gronfa.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ail rownd o geisiadau yw 9 Tachwedd.

Nid oedd Llenyddiaeth Cymru am wneud sylw am gais Taliesin ar hyn o bryd.

Y cylchgronau sydd wedi cael grant o 2016 a 2019:

Cylchgrawn

Nawdd a gynigiwyd

Barddas

£24,000

Barn

£80,000

Cristion

£4,800

Golwg

£73,000

Lingo

£18,000

Y Cymro

£18,000

Y Wawr

£10,000

CIP

£27,500

Mellten

£14,000

Fferm a Thyddyn

£1,500

Llafar Gwlad

£7,000

Melin

£5,000

WCW

£30,000

Y Selar

£10,000

Y Traethodydd

£6,000