Mark Sim
Mae angladd un o’r ddau ddyn a gafodd eu lladd mewn ffrwydrad mewn gwaith dur yng Nghaerdydd yn cael ei gynnal heddiw.

Bydd angladd Mark Sim, 41 oed yn cael ei gynnal yn Amlogsfa Forest Dean, Cas-gwent am 3:30 y prynhawn ‘ma.

Bu farw mewn ffrwydrad yn ffatri Celsayn ardal Y Sblot yn y brifddinas ar 18 Tachwedd ynghyd â Peter O’Brien, 51 oed. Cynhaliwyd ei angladd efyr wythnos ddiwethaf.

Roedd Mark Sim yn dod o Gil-y-Coed ac yn beiriannydd mecanyddol. Mae’n gadael ei wraig, Samantha a dau blentyn ifanc.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i geisio darganfod beth achosodd y ffrwydrad.