Gwaith dur Celsa (o wefan y cwmni)
Fe ddaeth cadarnhad fod dau ddyn wedi marw yn y ffrwydrad yng ngwaith dur Celsa yng Nghaerdydd.

Roedd y pryder amdanyn nhw wedi cynyddu trwy’r dydd wrth i griwiau achub fethu â dod o hyd iddyn nhw.

Roedd pump o bobol eraill wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad ac mae pedwar yn dal i gael eu trin yn yr ysbyty.

Mae Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Cymru wedi mynegi cydymdeimlad gyda theuluoedd y ddau ddyn.

“Wrth i’r teuluoedd alaru am eu hanwyliaid ac wrth i’r rhai a gafodd eu hanafu yn y ffrwydrad ddechrau adfer, rhaid i ni adael i’r ymchwiliad ddigwydd a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu at y dyfodol,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.