Peter O’Brien
Mae angladd un o’r ddau ddyn a gafodd eu lladd mewn ffrwydrad mewn gwaith dur yng Nghaerdydd yn cael ei gynnal heddiw.

Bu farw’r tad i chwech o blant, Peter O’Brien, 51, mewn ffrwydrad yn ffatri Celsa yn ardal Y Sblot yn y brifddinas ar 18 Tachwedd ynghyd a Mark Sim, 41.

Mae angladd Peter O’Brien, peiriannydd trydanol o Lanisien yng Nghaerdydd yn cael ei gynnal yn Eglwys Crist y Brenin, Llanisien, y bore ma.

Mae’n gadael ei wraig, Marie, a chwech o blant, Kieran, Hannah, Sean, Rachel, Martha a Dominic, sydd rhwng 14 a 23 oed.

‘Tad a gŵr cariadus’

Wrth roi teyrnged iddo ddoe, dywedodd ei deulu ei fod yn “ddyn caredig, addfwyn a doniol a oedd yn dwlu ar y pethau syml mewn bywyd – yr awyr agored, gwersylla, llosgi pethau ar y barbeciw ac wrth gwrs, treulio amser gyda’i deulu.”

Bydd angladd Mark Sim yn cael ei gynnal yn Amlosgfa Forest of Dean, Cas-gwent, ddydd Mawrth, Rhagfyr 15 am 3:30pm.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i geisio darganfod beth achosodd y ffrwydrad.