Mae Morgannwg wedi ennill gêm pedwar diwrnod yn ail adran y Bencampwriaeth am yr ail waith yn unig y tymor hwn.

Fe guron nhw Swydd Gaerwrangon yn New Road ar bedwerydd diwrnod yr ornest.

Tarodd Owen Morgan 103 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd y nod o 277 gyda phum wiced yn weddill ar y diwrnod olaf.

Morgan yw’r noswyliwr cyntaf erioed i daro canred i Forgannwg ac i daro’r rhediadau buddugol.

Roedd ei fatiad yn cynnwys 13 pedwar, gan gynnwys yr ergyd i gyrraedd y garreg filltir wnaeth sicrhau ail fuddugoliaeth y tymor hwn i Forgannwg.

Roedd y chwaraewr 22 oed o Bontarddulais wrth y llain am fwy na phump awr a hanner, ar ôl dod i’r canol gyda naw pelawd o’r trydydd diwrnod yn weddill, ac fe wynebodd e 242 o belenni.

Adeiladodd Morgan a’i gyd-Gymro, Will Bragg (46) bartneriaeth trydedd wiced o 88 i osod y seiliau, cyn i Aneurin Donald ddod i’r llain a sgorio 57 mewn partneriaeth o 99 am y bumed wiced.

Manylion

Ar ôl gwahodd Swydd Gaerwrangon i fatio ar y diwrnod cyntaf, bowliodd Morgannwg eu gwrthwynebwyr allan am 163, wrth i Michael Hogan gipio pedair wiced am 44. Dim ond 43 gan Joe Leach a 40 gan Ross Whiteley wnaeth sicrhau bod y Saeson yn cael cyfanswm parchus yn eu batiad cyntaf ar lain fflat.

Wrth ymateb, daeth y batiwr agoriadol Will Bragg o fewn dau rediad i ganred wrth i Forgannwg gyrraedd 280 i gyd allan.

Roedd y wicedwr Mark Wallace yn 67 heb fod allan erbyn diwedd y batiad, ac fe darodd Graham Wagg 46 wrth i Joe Leach gipio pum wiced am 106 i Swydd Gaerwrangon, a Morgannwg wedi sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 117.

Wagg a Wallace wnaeth achosi difrod i’r Saeson yn yr ail fatiad, wrth i Wagg gipio pum wiced am 90 – y tro cyntaf iddo gipio pum wiced mewn batiad ers mis Mai y llynedd – ac fe ddaeth y wicedwr Wallace yn gyfartal â’i record ei hun a Colin Metson wrth iddo sicrhau naw daliad yn y gêm.

Efelychodd Joe Clark gamp Will Bragg wrth sgorio 98, ac fe sgoriodd Tom Fell a Joe Leach 65 yr un wrth i Swydd Gaerwrangon sgorio 393 yn eu hail fatiad, i osod nod o 277 i Forgannwg am y fuddugoliaeth.

Mae gan Forgannwg bum gêm Bencampwriaeth yn weddill i sicrhau diweddglo parchus i dymor siomedig gyda’r bêl goch.