Mae Mark Wallace wedi efelychu ei record ei hun – a Colin Metson – wrth gael naw daliad yn y gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon.

Cafodd y wicedwr o Went bump daliad yn y batiad cyntaf, ac mae e wedi cael pedwar hyd yn hyn yn yr ail fatiad – gan ailadrodd ei gamp yn erbyn Swydd Derby ym Mae Colwyn yn gynharach y tymor hwn.

Mae angen un daliad neu stympiad arall arno i guro’r ymdrech honno, a record Colin Metson, oedd hefyd wedi cael naw daliad neu stympiad i Forgannwg ar ddau achlysur – unwaith ar yr Oval yn erbyn Swydd Surrey yn 1995, a’r tro blaenorol, fel mae’n digwydd, ar gae New Road yng Nghaerwrangon yn 1993.