Mae Graham Wagg wedi cipio pum wiced am 90 ar drydydd diwrnod gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerwrangon oddi cartref yng Nghaerwrangon.

Cafodd y tîm cartref eu bowlio allan am 393 i osod nod o 277 i Forgannwg ennill.

Daeth wiced gyntaf Wagg, oedd wedi bowlio’n gyflym a sbin yn ystod y batiad, ar yr ail ddiwrnod wrth i Brett D’Oliveira gael ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace, a orfennodd gyda naw daliad yn y gêm, sy’n efelychu ei record ei hun a Colin Metson,  y ddau ohonyn nhw bellach wedi cipio naw daliad mewn gêm ar ddau achlysur yr un.

Daeth ail wiced Wagg – ac ail ddaliad Wallace yn y batiad – â phartneriaeth o 96 rhwng Tom Fell a Joe Clarke i ben, wrth i Fell golli ei wiced.

Roedd trydedd wiced Wagg yn ganlyniad i un o’r daliadau gorau a welwyd ar gae New Road ers blynyddoedd lawer, wrth i’r bowliwr ifanc Lukas Carey redeg i’w ochr wrth faesu ar y ffin a dal ei afael ar y bêl ag un llaw. Cyn hynny, roedd Joe Clarke wedi bod yn edrych yn osgeiddig wrth offen dau rediad yn brin o bumed canred y tymor hwn.

Os oedd daliad Carey yn wyrthiol, roedd daliad Wallace – ei drydydd yn y batiad – i waredu Ross Whiteley yn y categori ‘rhyfedd’, wrth i’r batiwr chwarae ergyd ddi-angen â’r bat yn fertigol uwch ei ben.

Daeth pumed wiced Wagg wrth iddo ganfod coes Ed Barnard o flaen y wiced.

Roedd Swydd Gaerwrangon i gyd allan am 393 yn y pen draw, gan osod nod o 277 i Forgannwg am y fuddugoliaeth.