Canolfan Yr Egin (Llun: Prifysgol y Drindod Dewi Sant)
Mae Is-ganghellor a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn wynebu cwestiynau am faterion ariannol Yr Egin gan bwyllgor yn San Steffan heddiw.

Mae disgwyl i’r Athro Medwin Hughes a Gwyndaf Tobias gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig Llywodraeth Prydain am sefyllfa ddiweddara’r prosiect fydd yn adleoli pencadlys S4C yng Nghaerfyrddin.

Mae’r cynllun wedi bod o dan y lach yn ddiweddar wedi i’r Brifysgol ofyn am £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru at gost y datblygiad.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi y bydden nhw’n cyfrannu £3miliwn at y datblygiad, gyda disgwyl i’r £3miliwn arall ddod o fargen ddinesig Bae Abertawe.

‘Pryder’ i’r Pwyllgor

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn gobeithio am eglurhad gan y Brifysgol i’r materion ariannol presennol ynghyd â sefyllfa gyllido’r dyfodol.

“Mae’r materion cyllido yn ymwneud â phencadlys newydd S4C yn bryder i’r Pwyllgor,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David TC Davis.

“Rydym yn gobeithio y bydd y sesiwn hwn yn caniatáu i’r Drindod Dewi Sant egluro unrhyw gwestiynau y bydd gennym. Mae’n hanfodol fod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n gall,” meddai wedyn.

Cefndir

Mae S4C wedi nodi y byddai symud eu pencadlys i Gaerfyrddin yn cael ei wneud ar gost niwtral, ond maen nhw eisoes wedi ymrwymo i dalu £3 miliwn o rent rhag-blaen i’r Brifysgol.

Yn ogystal â chartref i’r Sianel Gymraeg, byddai adeilad Yr Egin yn gartref i sawl cwmni creadigol arall, ac i fod i agor y flwyddyn nesaf.