Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £3m i godi Yr Egin, cartre’ newydd S4C yn y de-orllewin. Fe ddaeth y cyhoeddiad toc cyn cinio ar Ddydd Gwyl Dewi gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

Roedd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant wedi gwneud cais i’r llywodraeth am arian,  gan y bydd y gwaith adeiladu yn costio tua £6m. Mae disgwyl i weddill yr arian ddod o gronfa adfywio Bae Abertawe.

“Wedi ystyried manteision economaidd, diwylliannol ac addysgol y prosiect hwn, rwy’n oil  o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3m yn 2017/18 i gefnogi Yr Egin,” meddai.

“Bydd y buddsoddiad yn helpu i ddarparu’r seilwaith sydd ei angen i gefnogi gweledigaeth y Brifysgol o glwstwr o fusnesau creadigol yng Nghaerfyrddin. A bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddod â bywyd newydd i’r economi leol; yn cefnogi ein hymrwymiad ehangach o hyrwyddo y Gymraeg fel iaith fyw a ffyniannus; a helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng y byd academaidd a busnesau creadigol.

“Bydd ein cefnogaeth i Yr Egin yn helpu Caerfyrddin i elwa ac adeiladu ar benderfyniad S4C i symud ei bencadlys yno, gan oil le a chyfleoedd i fusnesau eraill, y Brifysgol, myfyrwyr ac entrepreneuriaid i rwydweithio.”

Bydd y £3m yn helpu i godi adeilad newydd i roi llety i gwmnïau, unedau hybu i ddatblygu busnesau newydd yn y sectorau creadigol a digidol yn ogystal â lle ar gyfer digwyddiadau, neuadd gyngerdd agored, ac ystafelloedd cynhyrchu a golygu i’w defnyddio gan gwmnïau yn ogystal â’r Brifysgol.