Darlun dychmygol o'r hyn allai'r Egin fod.
Mi fydd S4C yn talu £3m o rent ‘rhag-blaen’ – advanced rent – i Brifysgol Y Drindod Dewi Sant pan fyddan nhw yn symud fewn i adeilad newydd Yr Egin ar gampws y coleg.

Mae disgwyl i’r Egin – ‘deorfa’ i’r diwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin – agor ei ddrysau yn 2018 a chartrefu 55 o weithwyr y Sianel.

Dywedodd llefarydd: “Bydd S4C yn talu £3m mewn rhent ar gyfer Canolfan S4C Yr Egin. Nid oes unrhyw arian wedi ei dalu eto.”

Ond nid oedd y Sianel yn fodlon dweud faint o gyfnod fyddan nhw yn ei gael yn Yr Egin am y £3m.

Yn ôl y llefarydd mae’r wybodaeth honno yn ‘fasnachol gyfrinachol’, gan y byddai ei datgelu yn ei gwneud yn bosib i’r cyhoedd weithio allan faint o rent mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn ei godi fesul metr sgwâr am gael bod yn Yr Egin.

Mae’r Brifysgol wedi gofyn am £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru o’r pwrs cyhoeddus i dalu am Yr Egin.

“Rhatach”

Yn ôl S4C mae talu £3m o rent wrth symud fewn i’r Egin yn mynd i fod yn “rhatach” yn yr hirdymor gan eu bod yn cael “disgownt” drwy dalu.

Ac mae’r Sianel yn mynnu bod y symud o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn parhau yn gost niwtral, er gwaetha’r ffaith fod angen talu £3m o rent wrth adleoli o’r brifddinas.

Ond mae ymgyrchydd iaith sydd o blaid symud y pencadlys i Gaernarfon, ac yn amau a ydy’r cynllun yn gost niwtral.

“Mae’r swm £3 miliwn yn swnio yn frawychus o uchel ar gyfer y datblygiad,” meddai Simon Brooks sy’n Gynghorydd Plaid Cymru yng Ngwynedd.

“Dw i wedi gwneud y sỳms ac mae’n gweithio allan fel tua £54,000 fesul pen – hynny yw y gweithiwr – o ran staff sydd yn mynd i Gaerfyrddin.”

Galw am dryloywder

Yn ôl Simon Brooks mae hi yn “hanfodol” bod y cyhoedd yn cael gwybod am faint fydd y cytundeb rhentu yn para.

“Pam nad ydy’r Drindod ac S4C yn agored ynglŷn â hyn?

“Mae ganddo ni yma ddau gorff cyhoeddus, prifysgol ar y naill law a darlledwr cyhoeddus ar y llaw arall. Mae’r ddau gorff yn derbyn arian o’r coffrau cyhoeddus ac wedi dod i gytundeb masnachol.

“Bydden i’n meddwl ei bod hi’n briodol, ac er lles y cyhoedd, bod manylion y cytundeb yma yn cael eu cyhoeddi.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod cyrff cyhoeddus yn agored yng Nghymru, ac yn dryloyw…

“Y cwbl rydan ni’n ei wybod ar hyn o bryd yw bod S4C wedi gwneud cytundeb gyda Phrifysgol y Drindod fydd yn meddwl y byddan nhw yn talu £54,000 ar gyfer pob gweithiwr sydd yn mynd draw i Gaerfyrddin.”

Ni chafwyd ymateb gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.

Mwy am y stori yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.