Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea Llun: PA
Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn paratoi at gynnal cyfarfod brys yn Efrog Newydd heddiw i ymateb i’r profion niwclear y mae Gogledd Corea wedi’u cynnal.

Mae datganiad gan Stryd Downing yn ailadrodd eu bod am gael ateb “diplomataidd a heddychlon” i’r argyfwng.

Yn y cyfamser mae gweinyddiaeth Donald Trump wedi rhybuddio y byddai unrhyw fygythiad i’r Unol Daleithiau neu eu cynghreiriad yn golygu y bydden nhw’n ystyried “ymateb milwrol sylweddol”.

‘Argyfwng’

Daw’r cyfarfod heddiw wedi i lywodraeth Kim Jong Un gynnal eu chweched prawf ar ddyfais niwclear.

Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog y Deyrnas Unedig – “ein ffocws yw gweithio gyda phartneriaid i gynyddu pwysau ar Ogledd Corea ac i ddod o hyd i ddatrysiad diplomataidd i’r argyfwng.”

Ychwanegodd y llefarydd fod yna sancsiynau pellach y gallen nhw eu hystyried.

De Corea – tanio taflegrau at y môr

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn De Corea wedi cyhoeddi eu bod wedi tanio taflegrau at y môr heddiw er mwyn paratoi ar gyfer ymosodiad posib ar brif safle arbrofi niwclear Gogledd Corea.

Maen nhw hefyd yn dweud ei bod yn debygol bod yr awdurdodau yn Pyongyang yn cynllunio ar gyfer profion pellach yn y dyfodol – a’r rheiny’n brofion sy’n ymwneud, o bosib, â thaflegrau ICBM (Intercontinental Ballistic Missile) sy’n gallu teithio mwy na 3,240 o filltiroedd.