Mae Gogledd Corea wedi cynnal profion “llwyddiannus” ar fom niwclear sydd i fod i gael ei lwytho i mewn i daflegryn balistig trawsgyfandirol.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi oriau ar ôl i gryniadau gael eu teimlo yn Ne Corea a Siapan.

Yn ôl cyfryngau Gogledd Corea, Kim Jong Un oedd wedi awdurdodi’r profion.

Mae lle i gredu bod y ffrwydrad niwclear bum neu chwe gwaith yn fwy na’r un blaenorol yn 2016, sydd wedi codi pryderon am allu’r taflegrau i gyrraedd mor bell i ffwrdd â’r Unol Daleithiau.

Oriau cyn y ffrwydrad, roedd cyfryngau Gogledd Corea’n adrodd bod Kim Jong Un wedi dod o hyd i fom hydrogen i greu taflegrau o’r fath.

Beirniadu

Mae’r weithred wedi cael ei beirniadu gan Weinidog Tramor Siapan, Taro Kono, sy’n dweud ei bod yn “annerbyniol”.

Yn ôl De Corea, maen nhw wedi bod yn trafod y sefyllfa â’r Unol Daleithiau.

Ac fe ddywedodd llefarydd fod Ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig wedi bod mewn trafodaethau brys â De Corea am y sefyllfa.