Nairobi, (Llun: CC 2.0 afromusing)
Mae timau achub wedi dod o hyd i ddynes yn fyw, chwe diwrnod ar ôl i adeilad ddymchwel yn Nairobi, meddai swyddog y llywodraeth yn Kenya.

Mae gweithwyr yn ceisio ei rhyddhau o’r rwbel, ac mae meddygon yn siarad â’r ddynes wrth aros i’w thrin, meddai Pius Masai, pennaeth yr Uned Reoli Trychinebau Cenedlaethol.

Yn ôl swyddogion, mae’r ddynes, sy’n gaeth mewn cornel fach o’i hystafell, i weld yn iawn ar y cyfan.

“Rydym yn hapus iawn bod rhywun wedi cael ei ganfod yn fyw, hyd yn oed ar ôl chwe diwrnod,” meddai Abbas Gullet, pennaeth y Groes Goch yn Kenya.

Ers i’r adeilad ddymchwel yn y brifddinas, mae 36 o bobol wedi’u lladd ac mae 70 o bobol yn dal i fod ar goll, yn ôl yr elusen.

Achub babi chwe mis oed

Cafodd babi chwe mis oed ei achub ddydd Mawrth, gan godi gobeithion bod rhagor o bobol yn fyw.

Cafwyd hyd i’r ferch fach mewn basn ymolchi, heb unrhyw anafiadau, ar ôl i’r adeilad saith llawr ddymchwel.

Ar ôl i wyth adeilad ddymchwel a lladd 15 o bobol y llynedd, fe wnaeth yr Arlywydd Uhuru Kenyatta orchymyn cynnal archwiliad o holl adeiladau’r wlad.

Roedd yr Awdurdod Adeiladu Cenedlaethol wedi dod i’r casgliad nad yw 58% o adeiladau Nairobi yn addas i fyw ynddyn nhw.

Mae’r rhan fwyaf o boblogaeth Nairobi, sef pedair miliwn o bobol, bellach yn byw mewn ardaloedd o incwm isel neu mewn slymiau.