Baner Kenya (Llun: Wicipedia)
Mae babi chwe mis oed wedi cael ei achub o’r rwbel ar ôl i adeilad ddymchwel yn Kenya dri diwrnod a hanner ôl, meddai swyddog ysbyty.

Dywedodd Simon Ithae, llefarydd ar ran Ysbyty Cenedlaethol Kenyatta bod y babi wedi cael ei dynnu o rwbel yr adeilad saith llawr tua 4yb amser lleol.

Nid oedd gan y ferch fach unrhyw anafiadau corfforol.

Cafodd 23 o bobl eu lladd ar ôl i’r adeilad ddymchwel, meddai’r heddlu ac mae ’na ofnau bod rhagor o bobl yn gaeth o dan y rwbel. Dywed y Groes Goch yn Kenya bod 93 o bobl ar goll.

Mae llys yn Kenya wedi gorchymyn bod dau berchennog yr adeilad a 21 o swyddogion y llwyodraeth leol yn cael eu cadw yn y ddalfa am 21 diwrnod tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad.