Fe allai milwyr Prydeinig gael eu defnyddio fel rhan o’r ymdrech i leihau tagfeydd ffyrdd ar ochr Lloegr o’r Sianel wrth i’r trafferthion yn Calais barhau.
Mae’n debyg bod y Weinidogaeth Amddiffyn yn gwneud paratoadau i ddefnyddio tir maen nhw’n berchen yn Swydd Caint i glirio traffig ar yr M20.
Yn ôl y Daily Telegraph fe allai’r tir gael ei ddefnyddio i greu maes parcio dros dro i lorïau wrth iddyn nhw aros i groesi’r Sianel, ond nid y fyddin fyddai’n gyfrifol am redeg y cynllun.
Daw hyn yn sgîl rhagor o drafferthion yn Calais, wrth i fewnfudwyr geisio manteisio ar y tagfeydd wrth neidio ar lorïau a threnau Eurostar sydd yn teithio i Brydain.
Cyfarfod Cobra
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron gynnal cyfarfod brys pwyllgor Cobra heddiw i drafod y mater, wrth i’r argyfwng barhau.
Ddoe fe gafodd y Prif Weinidog ei feirniadu am feio’r trafferthion yn Calais ar yr “haid” o fewnfudwyr oedd yn ceisio dod i mewn i’r wlad ar ôl teithio ar draws Ewrop.
Cafwyd rhagor o drafferthion neithiwr wrth i hyd at 100 o fewnfudwyr geisio rhuthro drwy fesurau diogelwch er mwyn cyrraedd cludiant fyddai’n mynd a nhw dros y Sianel.
Bu heddlu Ffrainc yno unwaith eto i geisio atal y mewnfudwyr rhag cyrraedd Twnnel y Sianel, wrth i’r tagfeydd greu trafferthion di-ri i deithwyr a lorïau.
Pryder am wasanaethau
Mae’r Swyddfa Gartref eisoes wedi cyfaddef eu bod yn credu bod dwsinau o bobl wedi llwyddo i ddianc ar draws y Sianel i Brydain dros y dyddiau diwethaf.
Ac yn ôl arweinydd Cyngor Sir Caint mae gwasanaethau gofal y sir dan straen oherwydd y nifer o blant a phobl ifanc dan 18 sydd wedi llwyddo i gyrraedd Prydain ar eu pen eu hunain.
Mae’r nifer o fewnfudwyr ifanc yng ngofal yr awdurdod lleol wedi dyblu i dros 600 mewn tri mis, gan olygu problemau cyllido.
“Mae gennym ni ddwy broblem,” meddai Paul Carter, arweinydd y cyngor.
“Un yw ceisio delio ag Operation Stack a’r brif ffordd, yr M20, ar gau i’r ddau gyfeiriad.
“Ond hefyd, mae gan y llywodraeth leol ddyletswyddau statudol i ddarparu gofal ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 sydd ar eu pen eu hunain, ac mae’r niferoedd hynny wedi cynyddu’n sylweddol.”