David Cameron
Mae un o’r ymgeiswyr yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi beirniadu Prif Weinidog Prydain, David Cameron am gyfeirio at ‘haid’ o ymfudwyr.

Yn ôl Andy Burnham, roedd sylw Cameron wrth drafod yr argyfwng yn Calais yn “warthus”.

Yn ystod ymweliad â Fietnam, dywedodd David Cameron wrth ITV fod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf oherwydd bod “haid o bobol yn croesi Môr y Canoldir i geisio bywyd gwell trwy ddod i Brydain”.

Mewn datganiad ar ei dudalen Twitter, dywedodd Andy Burnham: “Mae Cameron yn galw ymfudwyr yn ‘haid’ yn ddim llai na gwarthus.”.

‘Anghyfrifol’

 

Wrth drafod sylwadau Cameron, dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage fod y Prif Weinidog yn ceisio ymddangos yn “gadarn” wrth fynd i’r afael ag ymfudwyr.

Dywedodd Farage wrth raglen ‘Today’ BBC Radio 4: “Y bore ma, mae’r Prif Weinidog yn ceisio swnio’n gadarn. A yw e’n ei olygu ai peidio sy’n gwestiwn arall.”

Mae’r Cyngor Ffoaduriaid hefyd wedi beirniadu defnydd Cameron o’r term, gan ddweud ei bod yn “iaith ofnadwy, annynol ac anghyfrifol gan arweinydd byd-eang”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Ffoaduriaid: “Mae’n eithriadol o siomedig clywed y Prif Weinidog yn defnyddio’r fath iaith anghyfrifol, annynol i ddisgrifio’r dynion, menywod a phlant sydd mewn argyfwng wrth geisio ffoi am eu bywydau ar draws Môr y Canoldir.”

Ychwanegodd fod yr ieithwedd yn “eithriadol o ymfflamychol”.

Mae arweinydd dros dro’r Blaid Lafur, Harriet Harman wedi cyhuddo David Cameron o geisio ennyn cefnogaeth yn erbyn ymfudwyr.

Mae Downing Street wedi diystyru’r feirniadaeth gan ddweud mai ceisio cyfleu maint yr argyfwng oedd David Cameron.