Mae cwmni Sports Direct wedi rhyddhau datganiad pellach erbyn hyn yn ymddiheuro am “unrhyw gamddealltwriaeth neu ofid” y mae eu hysbysiad iaith wedi’i achosi.

Fe ddaeth hi i’r amlwg dros y penwythnos fod arwyddion wedi’u gosod yn un o’u siopau ym Mangor oedd yn gwahardd staff y cwmni rhag siarad unrhyw iaith ar wahân i Saesneg – a hynny am resymau diogelwch.

Ers hynny mae gwleidyddion wedi beirniadu’r polisi gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i’r achos a bron 2,500 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar y cwmni i newid eu polisi iaith.

‘Ymddiheuro am unrhyw gamddealltwriaeth’

Mewn datganiad, mae’r cwmni’n dweud y byddan nhw’n “adolygu geiriad yr hysbysiad” cyn “ail-ryddhau hysbysiad wedi’i ddiweddaru.”

Maen nhw’n cynnig eglurhad i’r achos gan ddweud – “fe wnaeth Sports Direct ryddhau hysbysiad i’w holl siopau yn y Deyrnas Unedig ar ein polisi iaith. Y bwriad oedd sicrhau bod yr holl staff, wnaeth fynd i sesiynau briffio ar iechyd a diogelwch a materion pwysig eraill, yn deall cynnwys y cyfathrebiadau hyn.”

“Saesneg yw’r iaith fwyaf cyffredin sy’n cael ei defnyddio gan ein staff aml ieithog, ac am hynny, yr un sy’n fwyaf tebygol o gael ei deall gan bawb,” ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni.

“Doedd yr hysbysiad hwn ddim wedi’i fwriadu i gyfyngu ar y defnydd o’r iaith Gymraeg, na gwahardd staff rhag cyfathrebu yn eu hiaith leol, tu allan i’r briffio hyn neu gyda chwsmeriaid,” meddai.

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn gwmni rhyngwladol ac yn “llwyr gefnogi defnydd o iaith leol yn ein holl awdurdodaeth.”

Am hynny, fe ddywedon nhw eu bod yn “ymddiheuro am unrhyw gamddealltwriaeth neu ofid mae’r hysbysiad wedi’i achosi.”