Logo 38 degrees
Mae deiseb ar y we yn galw ar Sports Direct i “dynnu eu polisi gwrth-Gymraeg yn ôl” wedi denu dros 500 o lofnodion.

Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan Rowenna Williams fel ymateb i honiadau bod y cwmni’n gwahardd ei staff rhag siarad Cymraeg, ar ôl i arwyddion ymddangos yn siop y cwmni ym Mangor.

Mae hi’n dweud ar y dudalen ar wefan 38 degrees: “Mae gwahaniaethu yn erbyn y gymuned a’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn annog casineb hiliol ac yn cyfyngu ar hawliau’r Cymry i siarad eu hiaith eu hunain.”

Ond mae’r cwmni’n mynnu nad yw “cyfyngu ar y defnydd o’r iaith Gymraeg” yn rhan o’u polisi.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad.

Ymateb y cwmni

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Sports Direct: “Mae Sports Direct yn fusnes rhyngwladol sy’n gweithredu mewn nifer o awdurdodaethau.

“Rydym yn annog y defnydd o’r iaith frodorol a fyddem ni byth yn rhoi gorchymyn i’n staff i’r gwrthwyneb.

“Nid polisi’r cwmni yw cyfyngu ar y defnydd o’r iaith Gymraeg na iaith unrhyw wlad arall.”