Donald Trump yn yngyrchu (Michael Vadon CCA4.0)
Oriau cyn urddo’r biliwnydd Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae protestwyr wedi gwrthdaro â’r heddlu y tu allan i rali yn ei gefnogi yn y brifddinas, Washington DC.
Mae disgwyl y bydd degau o filoedd o bobol America yn protestio yn erbyn Donald Trump heddiw a fory, ac mae rhai gwleidyddion o blaid y Democratiaid wedi torri traddodiad a gwrthod cymryd rhan yn y seremoni.
Ond y disgwyl yw y bydd Donald Trump yn addo uno’r Unol Daleithiau pan fydd yn dechrau ar ei waith ond mae tensiynau mawr yn y wlad, ar ôl iddo guro’r Democat, Hillary Clinton – er iddi hi gael mwy o bleidleisiau ar draws y wlad.
Diogelwch llym yn Washington
Mae swyddogion diogelwch wedi codi pryderon dros wrthdaro posib rhwng cefnogwyr a gwrthwynebwyr yr Arlywydd newydd yn Washington, lle mae disgwyl i 900,000 o bobol ei wylio yn cael ei urddo.
Bydd 28,000 o swyddogion diogelwch yn y digwyddiad, gan gynnwys dros 3,000 o swyddogion yr heddlu a 5,000 o aelodau’r Gwarchodlu Cenedlaethol.
Bydd y gwrthdystiad mwyaf yn Washington dydd Sadwrn, lle mae disgwyl tua 200,000 o bobol i ymuno â gorymdaith y merched.
Fe fydd protestiadau yng Nghymru hefyd.