Donald Trump yn ennyn ymateb yng Nghymru (Michael Vadon CCA4.0)
Fe fydd protestiadau yng Nghymru – yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau – wrth i’r biliwnydd Donald Trump gael ei urddo yn Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau.

Fe fydd protest heno am 6 ar lawnt Castell Caerdydd gan y grŵp Stand Up to Racism a’r un peth yn digwydd yn Abertawe ar Sgwâr y Castell hanner awr ynghynt.

Ddydd Sadwrn, i gyd-fynd â ‘Gorymdaith y Merched’ sy’n digwydd yn rhai o ddinasoedd America ac yn Llundain, fe fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ym Mangor a Chaerdydd amser cinio.

‘Normaleiddio hiliaeth ac annhegwch rhywiol’

Mae trefnwyr y brotest yng Nghaerdydd yn tynnu sylw at rai o’r pethau yr oedd Donald Trump wedi eu dweud yn ystod yr ymgyrch, gan gynnwys ymosodiadau ar fewnfudwyr a’i sylwadau am gam-drin merched yn rhywiol.

“Fe fydd effeithiau arlywyddiaeth Trump yn cael eu teimlo ar draws y byd i gyd wrth i hiliaeth ac annhegwch rhywiol gael eu normaleiddio trwy lais un o ffigurau mwya’ pwerus ac amlwg y byd,” medden nhw.

“Mae ymgyrchwyr yn yr Unol Daleithiau wedi trefnu protestiadau ar gyfer diwrnod ei urddo – r’yn ni’n sefyll i ddangos ein bod gyda nhw a byddwn yn ymuno gyda dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig trwy brotestio yng Nghaerdydd.”