Y mor ger Abereiddi (Andy Dingley CCA3.0)
Bydd y chwilio’n ail-ddechrau’r bore yma am bysgotwr sydd ar goll ar ôl i’w gwch suddo ger glannau Sir Benfro.

Mae’r gwasanaethau brys wedi cadarnhau bod un dyn wedi ei dynnu o’r dŵr a’i fod bellach yn yr ysbyty.

Ond mae’r ail bysgotwr yn parhau ar goll ac mae dirgelwch hefyd sut yr oedd y cwch wedi mynd i drafferthion.

Y gred yw ei fod wedi taro creigiau a suddo, er nad oedd hi’n ymddangos ei fod yn pysgota ar y pryd ac er fod y creigiau’n adnabyddus.

Y chwilio

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 2 o’r gloch brynhawn ddydd Iau ar ôl i aelodau’r cyhoedd weld y cwch yn mynd i drafferthion wrth ymyl y creigiau ym Mhenmaen Dewi, ger Tŷ Ddewi.

Bydd Gwylwyr y Glannau, hofrennydd achub a gwasanaethau’r bad achub yn parhau i chwilio’r môr am y pysgotwr coll, gan ddilyn ymdrech fawr ddoe.

“Mae gyda ni dri chwch yn chwilio, mae yna dimau yn cerdded y clogwyni ac mae hofrennydd achub gwylwyr y glannau,” meddai llefarydd nos Iau, ar ran Gorsaf Bad Achub Tŷ Ddewi.

Cymorth i deuluoedd

Dywedodd y llefarydd fod y cwch pysgota wedi bwrw creigiau ger traeth Abereiddi, a’i fod tua milltir o’r lan pan suddodd, gyda dau berson arno.

“Yn yr ardal honno, lle mae yna greigiau dan y dŵr, fyddan nhw ddim wedi bod yn pysgota, felly dydyn ni ddim yn siŵr beth oedden nhw’n ei wneud yna.”

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae teuluoedd y ddau ddyn sydd ar goll yn cael cymorth gan swyddogion ac maen nhw wedi apelio i dystion am unrhyw wybodaeth.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101, gan grybwyll ‘digwyddiad 188, Ebrill 28’.