Mae gwylwyr y glannau yn chwilio am griw llong bysgota oddi ar arfordir Sir Benfro heddiw ar ôl derbyn galwad bod y cwch mewn trafferthion.

Derbyniodd Gwylwyr y Glannau alwad gan aelod o’r cyhoedd ychydig cyn 2:30 ddydd Iau i ddweud eu bod wedi gweld cwch pysgota mewn trafferthion wrth ymyl y creigiau ger Penmaendewi, Sir Benfro.

Suddodd y llong yn ddiweddarach ond nid yw’n hysbys ar hyn o bryd faint o griw oedd ar ei bwrdd.

Mae hofrennydd chwilio ac achub Gwylwyr y Glannau a thimau achub Gwylwyr y Glannau o Benmaendewi ac Abergwaun yn chwilio’r ardal.