Mae un o’r ymgyrchwyr sydd yn erbyn datblygu Wylfa Newydd ym Môn yn dweud bod y prosiect wedi “camarwain a chodi gobeithion pobol yn ddiangen”.

Daw sylwadau Robat Idris o’r grŵp PAWB (Pobol Atal Wylfa B) yn sgil adroddiadau bod Hitachi, sy’n berchen yr is-gwmni, Horizon, yn bwriadu gohirio’r broses o adeiladu atomfa newydd oherwydd bod y prosiect yn rhy gostus iddyn nhw.

Yn y cyfamser, mae adroddiad ym mhapur y Nikkei Asian Review heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 17) yn cynnwys cadarnhad gan gadeirydd y cwmni, Hiroaki Nakanishi, fod y prosiect yn “wynebu sefyllfa anodd” wrth sicrhau nawdd o Lywodraeth Prydain.

Ond mae dirprwy lywydd gweithredol Hitachi, Toshikazu Nishino, yn mynnu nad yw’r cwmni “wedi rhoi’r gorau eto” i’r cynlluniau.

Daw’r adroddiadau yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru alw cais cynllunio Horizon i glirio a pharatoi 750 o erwau i mewn.

Croesawu’r pryderon

“Be ydan ni’n teimlo ydy bod gan Hitachi reswm da iawn i adael y prosiect i fod rŵan, ac rydym yn croesawu hynny,” meddai Robat Idris wrth golwg360.

“Ar yr un pryd, mi fyddwn ni’n croesawu buddsoddiad gan Hitachi, pe baen nhw’n dewis hynny, mewn cynlluniau adnewyddol yn Sir Fôn ac yng Nghymru yn gyffredinol.

“Mae yna le iddyn nhw dal i greu swyddi a dal i wneud elw iddyn nhw eu hunain efo llawer iawn llai o risg iddyn nhw fel cwmni.”

“Gwastraffus”

Yn ôl Robat Idris, mae’r holl ganolbwyntio ar brosiect mawr fel Wylfa Newydd wedi creu buddsoddiadau mewn isadeiledd a allai fod yn “wastraffus” cyn hir, yn ogystal â rhwystro cynlluniau eraill a fyddai wedi mynd i’r afael â diweithdra o fewn y sir.

“Mae PAWB ar hyd y blynyddoedd yn gyson wedi ffafrio creu cyflogaeth mewn gwahanol ddulliau yn lleol yn Ynys Môn, ond rydan ni’n teimlo bod yna fai aruthrol nad oes yna gynlluniau digonol wedi bod ar gyfer yr argyfwng o ddiweithdra sydd yma,” meddai.

“Mae’r ddibyniaeth ar un prosiect mawr a allai ddim digwydd yn y diwedd wedi camarwain a chodi gobeithion pobol yn ddiangen, ac efallai wedi golygu buddsoddiadau isadeiledd a fydd yn wastraffus os nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio i bwrpas arall.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Ynys Môn a Hitachi am eu hymateb i’r adroddiadau.