Mae adroddiadau yn Japan y gallai cwmni Hitachi ohirio’r broses o adeiladu atomfa Wylfa Newydd, yn sgil ofnau bod y prosiect yn rhy fawr i un cwmni.

Mae’r Japan News a Yiomuri yn adrodd mai costau adeiladu sydd ar fai, a bod disgwyl i’r cwmni wneud penderfyniad terfynol yn y flwyddyn newydd. Ac mae hefyd yn dweud bod trafodaethau Brexit wedi cael dylanwad ar y cwmni.

Daw’r adroddiadau yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru alw cais cynllunio Horizon i glirio a pharatoi 750 o erwau i mewn.

Pe bai’r safle’n cael ei adeiladu, mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar ddechrau’r degawd nesaf, ond fe fydd rhaid denu buddsoddwyr yn y lle cyntaf, meddai’r papur newydd.

Mae disgwyl i Shinzo Abe, Prif Weinidog Japan gyfarfod â Theresa May, Prif Weinidog Prydain, ym mis Ionawr, ac i Hitachi wneud penderfyniad ar sail y cyfarfod hwnnw.

Prosiect Wylfa B

Yn ôl y Japan News, mae Hitachi wedi gosod lleihau ei gyfrannau yn Horizon o 100% i 50% fel amod ar gyfer bwrw ymlaen gyda’r prosiect. Mae hyn oherwydd y perygl o orfod talu swm sylweddol o arian pe bai damwain yn digwydd, meddai.

Roedd y cwmni’n gobeithio denu buddsoddwr arall i ymgymryd â’r 50% arall.

Ond fe fu denu buddsoddwyr yn y wlad yn anodd ers y daeargryn mawr yn 2011 – mae cwmnïau o Japan eisoes wedi colli’r cyfle i fod yn rhan o brosiectau yn Fietnam, Twrci a Lithwania dros y blynyddoedd diwethaf.