Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £5m i Brifysgol Aberystwyth er mwyn ail-agor Neuadd Pantycelyn.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth i Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, ymweld â’r neuadd heddiw (dydd Iau. Gorffennaf 5), sydd wedi bod yn llety i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol ers 1974.

Bydd yr arian yn mynd at brosiect gwerth £12 miliwn er mwyn adnewyddu’r adeilad a’i ail-agor i fyfyrwyr erbyn mis Medi 2019.

Mae cyllid y Llywodraeth yn dod o’i chronfa rhaglen ‘Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif’.

“Pwysig” i gyrraedd targed 2050

Dywed Eluned Morgan y byddai agor Pantycelyn unwaith eto yn cyfrannu at darged y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan roi’r cyfle i fyfyrwyr “fyw eu bywydau bob dydd drwy’r Gymraeg.”

“Allwn ni ddim gorbwysleisio pwysigrwydd Pantycelyn i siaradwyr Cymraeg,” meddai.

“Mae’n adeilad eiconig i gynifer o bobl o bob rhan o Gymru a’r byd, felly rwy’n hynod falch i allu cadarnhau’r cyllid o £5 miliwn a fydd yn sicrhau bod llawer mwy o fyfyrwyr Cymraeg yn gallu ei galw’n gartref iddynt a phrofi ei hawyrgylch ieithyddol a diwylliannol unigryw.

“Rydyn ni wedi pennu targed heriol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Rwy’ i wedi dweud sawl gwaith fod addysg yn hollbwysig o ran sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw – ac mae hynny’r un mor wir am addysg uwch ag ydyw am ysgolion cynradd.

“Y myfyrwyr a fydd yn byw yn y neuadd fydd athrawon, cyfreithwyr, gwyddonwyr a gwleidyddion y dyfodol. Felly, mae sicrhau bod ganddyn nhw’r cyfleoedd i ddysgu a byw drwy gyfrwng y Gymraeg ac i barhau â hynny yn eu bywydau proffesiynol yn rhan hanfodol o strategaeth ‘Cymraeg 2050’.”

Bydd rhan o’r adeilad yn cael ei defnyddio fel canolfan ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, a bydd honno ar agor i’r gymuned.