Mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi cytuno ar becyn cyllid gwerth £12 miliwn i adnewyddu neuadd breswyl Pantycelyn.

Y bwriad yw ailagor Pantycelyn erbyn Medi 2019 fel  neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg  a fydd yn darparu 200 o ystafelloedd gwely en-suite.

Mae penseiri eisoes wedi llunio cynlluniau manwl ar gyfer adnewyddu’r adeilad, ac mae’r brifysgol yn gobeithio gosod sustem chwistrellu dŵr newydd yno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £5 miliwn mewn egwyddor tuag at gost y prosiect.

“Datblygu ymhellach”

“Mae UMCA wedi bod yn galw am fuddsoddiad er mwyn adnewyddu Pantycelyn, ac felly rydym yn falch iawn o’r penderfyniad a wnaed gan y Cyngor,” meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Gwion Llwyd.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Brifysgol i sicrhau cyfleusterau o’r radd flaenaf ym Mhantycelyn ac i ddatblygu ymhellach y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Aber.”

Cyfraniad diwylliannol

“Rwy’n hynod o falch fod Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau ei hymroddiad i fyfyrwyr iaith Gymraeg ac i Neuadd Breswyl Pantycelyn am y blynyddoedd i ddod,” meddai Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones.

“Gallwn nawr fod yn hyderus y bydd y gwaith adnewyddu yn dechrau yn y dyfodol agos, ac y bydd myfyrwyr o Gymru a’r byd crwn yn ôl yng nghoridorau Pantycelyn, sydd mor bwysig i ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, erbyn Medi 2019.”