Mae traeth Ceinewydd yng Ngheredigion wedi ail-agor i’r cyhoedd.

Cafodd y traeth ei gau nos Wener, 30 Mawrth am gyfnod amhenodol yn sgil pryderon i iechyd y cyhoedd ar ôl i nant sy’n rhedeg ar y traeth gael ei halogi gan slyri fferm.

Cafodd swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wybod am y gollyngiad nos Wener, a phenderfynu cau’r traeth gan rybuddio’r cyhoedd i gadw draw.

Dywed Cyngor Sir Ceredigion bod Traeth Dolau yng Ngheinewydd bellach wedi agor.

Roedd busnesau lleol wedi mynegi pryderon am y digwyddiad a hynny yn ystod un o benwythnosau prysura’r flwyddyn.