Mae llefarydd ar ran siop hufen iâ yng Ngheinewydd wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn poeni am y dyfodol ar ôl i slyri gyrraedd un o draethau’r dref.

Daeth cadarnhad ddoe fod swyddogion amgylcheddol wedi penderfynu cau traeth y Dolau nos Wener ar ôl i nant sy’n rhedeg i’r môr gael ei halogi.

Mae rhybudd i’r cyhoedd gadw draw am resymau iechyd y cyhoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion, “Oherwydd y gollyngiad slyri ar draeth Dolau nos Wener, bu’n rhaid inni wneud penderfyniad i gau’r traeth am gyfnod amhenodol i iechyd a diogelwch y cyhoedd. Rydym yn cynghori’r cyhoedd yn gryf i gadw’n glir o’r ardal.”

Twristiaid

Mae penwythnos y Pasg wedi bod yn un prysur i fusnesau’r dref a thra bod rhai busnesau’n “rhy brysur” i drafod y sefyllfa â golwg360, dywedodd eraill, gan gynnwys trefnydd teithiau lleol, eu bod yn parhau â’u gwaith “yn ôl yr arfer”.

Ond un o’r busnesau sydd wedi mynegi pryderon am y sefyllfa yw siop hufen iâ ‘Creme Pen Cei’.

Tra ei bod hi’n brysur yno heddiw, meddai llefarydd, “mi fydd yn cael effaith arnon ni yn y pen draw”.

“Dydy’r sefyllfa ddim wedi effeithio arnon ni hyd yn hyn. Ond fe ddaw’r amser pan fydd pobol yn dechrau meddwl, ar ôl clywed am hyn yn y newyddion neu ar wefannau cymdeithasol, fod Ceinewydd yn amgylcheddol anniogel.

“Dw i’n sicr yn disgwyl rhagor o sgil-effeithiau o hyn yn y dyfodol.”

Poeni am ddelwedd y dref

Dywedodd y cynghorydd lleol, Huw Williams wrth golwg360: “Ddoe, roedd traeth y Dolau ar gau a’r Cyngor wedi dod i roi bariers ar dop y llwybr yn mynd lawr i’r traeth. Mae signs yn dweud bod yna beryg i’r cyhoedd oherwydd y slyri, so mae’r traeth ar gau.

“Wrth gwrs, mae’n benwythnos prysur fan hyn a lot o ymwelwyr gyda ni. Mae wedi cael effaith ar yr ymwelwyr a’r busnesau lleol achos mae un o ddau draeth sydd ynghanol Ceinewydd ar gau.

“Yn fwy na’r effaith hynny, mae’n rhoi syniad gwael am y lle i ymwelwyr.”

Ac mae Huw Williams yn dweud ei fod yn poeni na fydd ymwelwyr sydd yno ar hyn o bryd yn dychwelyd eto yn y dyfodol.

“Os bydden i’n mynd ar wyliau i rywle a gweld bod y traeth ar gau oherwydd llygredd, fydden i ddim yn debygol o fynd nôl yn glou i’r lle ’na. Dyna beth fydd yr effaith, fod pobol yn cael rhyw agwedd negyddol ynglŷn â’r lle oherwydd bod y traeth ar gau oherwydd y llygredd.”

Ail ddigwyddiad ers 2013

Mae’r achos hwn yn adlais o ollyngiad slyri tebyg yn 2013, ond mae Huw Williams yn dweud nad yw’n credu bod cyswllt rhwng y digwyddiad bum mlynedd yn ôl a’r un diweddaraf.

“Roedd y slyri wedi gollwng i lawr i mewn i afon sy’n rhedeg lawr o gwpwl o ffermydd o dan y ddaear ac yn dod mas ar y traeth. Dyna beth ddigwyddodd y tro diwetha’.

“Roedd y broblem honno wedi cael ei sortio ma’s. Naill ai rhywbeth tebyg o’r un fferm neu o fferm arall [yw hwn], sai’n siŵr ond cafodd y broblem ddiwetha’ ei stopio. Nid yr un broblem yw hi [y tro hwn] ond rhywbeth tebyg.

“Ond does dim gwybodaeth wedi dod ma’s tro hyn o le mae’r slyri wedi dod.”