Mae Dyfodol i’r Iaith yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn Iaith a fyddai yn cymryd lle Comisiynydd y Gymraeg.

Mae Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith wedi pwyso am gadw Comisiynydd, a’r wythnos  hon roedd corff rhyngwladol yn pwyso am yr un peth.

Corff rhyngwladol: “Peidiwch â diddymu Comisiynydd y Gymraeg”

Ond mae Dyfodol i’r Iaith yn anghytuno gydag ymgyrchwyr eraill, gan ddweud y gallai Comisiwn i hyrwyddo a rheoleiddio’r Gymraeg fod yn fwy buddiol na chael Comisiynydd yn unig.

Mae Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith yn pwysleisio nad ydyn nhw am weld rôl y Comisiynydd yn diflannu, ond bod angen corff sy’n mynd i gwmpasu mwy o feysydd na “hawliau [iaith] yn unig”.

“Ry’n ni’n gweld bod sefydlu corff bydd yn gallu datblygu arbenigedd ym maes cynllunio iaith yn hanfodol i wneud sawl peth sydd ddim yn cael ei wneud drwy system y Comisiynydd Iaith,” meddai wrth golwg360.

Dywedodd Heini Gruffudd ei fod am weld y Comisiwn yn arwain ar “bolisïau economaidd, polisïau tai… cydweithio gydag adran addysg y Llywodraeth a hefyd [cael] dylanwad ar draws gwahanol adrannau’r Llywodraeth yn gyffredinol.

“Gall y Comisiynydd fod ar wahân i hwn neu gall e’ fod yn rhan o hwn, dyw hynny ddim o dragwyddol bwys.

“Ry’n ni’n gweld bod y maes yn gyffredinol yn llawer iawn mwy eang na statws a hawliau a bod eisiau i ni ddatblygu fel rhan o’r Llywodraeth, arbenigedd ym maes cynllunio iaith sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd.

“Ry’n ni’n pryderu bod dim byd yn y system nawr sy’n rhoi’r parhad angenrheidiol i ddatblygu arbenigedd o ran cynllunio’r Gymraeg.”

“Anghytuno â Chymdeithas yr Iaith”

“Cefais i gyfarfod gyda dau o arweinwyr Cymdeithas yr Iaith wythnos hon, ac ry’n ni’n bendant yn anghytuno ar le mae’r pwyslais,” ychwanegodd Heini Gruffudd.

“Maen nhw fel pe bai’n nhw’n rhoi’r pwyslais i gyd ar Gomisiynydd, dw i’n ofni bod rhoi pwyslais ar hawliau unigol ond yn mynd i effeithio ar ganran fach iawn o’r boblogaeth.

“Mae angen rhywbeth llawer iawn mwy eang na hynny. Dydyn ni ddim yn erbyn Comisiynydd, dw i’n deall bod Comisiynwyr Ewrop eisiau cadw Comisiynydd yng Nghymru, popeth yn dda.

“Ond beth sydd ddim yng Nghymru yw’r math o gynllunio iaith ar lefel drylwyr iawn, traws-lywodraeth sydd wedi bod yn digwydd gyda’r Basgiaid a Chatalwnia.

“Dw i ddim yn gweld bod eisiau mynd am un neu’r llall, buaswn i’n dweud bod y maes y byddai’r Comisiwn yn delio gyda fe yn llawer ehangach na’r hyn sy’n cael ei ddelio ‘da fe o dan hawliau.

“Os ydych chi’n edrych ar Wlad y Basg, y peth cyntaf wnaethon nhw oedd hyfforddi 7,000 o weision sifil ac athrawon. Buddsoddi mawr ar raddfa eang er mwyn Basgeiddio’r system addysg a’r llywodraeth. Dyw’r system Comisiynydd ddim yn mynd i gyflawni hynny.”