Mae Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith wedi anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn galw arnyn nhw i beidio â diddymu Comisiynydd y Gymraeg.

Cyhoeddodd y Llywodraeth mewn papur gwyn a gafodd ei gyhoeddi fis Awst, eu bod yn bwriadu diddymu’r rôl a sefydlu ‘Comisiwn y Gymraeg’ yn ei lle.

Mae nifer wedi beirniadu’r ddogfen hon – ‘Bil y Gymraeg’ – gan ddadlau y byddai’n arwain at wanhau y drefn bresennol.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r llythyr gan ddadlau mai “ffolineb llwyr” byddai cael gwared â’r swydd.

“Ffolineb llwyr”

“Dyma dystiolaeth bellach i gefnogi’r ddadl dros gadw Comisiynydd y Gymraeg,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg, a hynny heb gynnig unrhyw reswm, unrhyw resymeg nac unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny.”

Dadl Heledd Gwyndaf yw bod papur gwyn y Llywodraeth wedi’i seilio ar ddim ond naw mis o waith y Comisiynydd, a bod “tystiolaeth glir” yn dangos ei bod yn cael dylanwad “ar lawr gwlad”.