Bydd llai o Rhys Mwyn yn Yr Herald.
Mae perchnogion yr hyn sydd ar ôl o hen bapur Cymraeg Yr Herald wedi cadarnhau na fyddan nhw’n lleihau nifer tudalennau’r atodiad, yn dilyn cyhoeddi y byddan nhw’n haneru nifer ei golofnwyr.

Yn lle pedair colofn bob wythnos yn y papur pedair tudalen, sydd bellach yn atodiad i bapur dyddiol y Daily Post ar ddydd Mercher, dim ond dwy golofn fydd yna.

Pedwar colofnydd sy’n ysgrifennu i’r Herald – Bethan Gwanas, Bethan Wyn Jones, Angharad Tomos a Rhys Mwyn.

Mae’r newid yn golygu mai dwy golofn fydd yn ymddangos bob wythnos – gan Bethan Gwanas a Rhys Mwyn un wythnos, a Bethan Wyn Jones ac Angharad Tomos yr wythnos wedyn.

“Cynyddu amrywiaeth”

Mewn datganiad i golwg360, dywedodd Trinity Mirror, y cwmni o Lundain sy’n berchen ar y Daily Post, ei fod yn “adolygu ei gynnwys a’i golofnwyr yn gyson”.

“Bydd pedwar colofnydd Yr Herald yn parhau i ysgrifennu i’r Daily Post – ond bob pythefnos, yn hytrach nag yn wythnosol. Mae hyn yn golygu y bydd dau yn ymddangos bob wythnos,” meddai llefarydd Trinity Mirror.

“Dyw hyn ddim yn unrhyw adlewyrchiad o ansawdd y gwaith y mae Bethan Gwanas, Bethan Wyn Jones, Angharad Tomos a Rhys Mwyn yn ei ddarparu a bydd eu darllenwyr niferus yn eu diolch am eu cyfraniad parhaus dros nifer o flynyddoedd.

“Does dim cynllun i leihau nifer y tudalennau na chynnwys Cymraeg yn Yr Herald. Yn hytrach, bydd y newid yn ein galluogi i gynyddu amrywiaeth y cynnwys Cymraeg yn y gwagle sydd ar gael.”