Rhys Mwyn
Mae pryder tros yr hyn sydd ar ôl o hen bapur yr Herald Cymraeg ar ôl i’r golygydd gyhoeddi bod nifer y colofnau’n cael eu torri I’r hanner.

Yn lle pedair colofn bob wythnos yn y papur pedair tudalen, sydd bellach yn atodiad i bapur dyddiol y Daily Post, dim ond dwy fydd yna.

Mae hynny’n golygu y bydd y pedwar colofnydd – Rhys Mwyn, Bethan Gwanas, Angharad Tomos a Bethan Wyn Jones – yn cyfrannu bob yn ail wythnos.

Er hynny, mae’n ymddangos bod nifer y tudalennau’n aros yr un peth.

‘Pwysau gan y perchnogion’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Rhys Mwyn ei fod yn deall mai pwysau o gyfeiriad perchnogion y Daily Post – Trinity Mirror – yw hyn – mae’n deall eu bod yn ceisio lleihau nifer ei holl golofnwyr a newyddiadurwyr llawrydd.

“Be’ dw i wedi cael o ran dealltwriaeth ydy bod Trinity Mirror, y mam-gwmni sy’n bia’r holl beth, bod nhw’n lleihau os nad haneru ei gohebwyr neu golofnwyr llaw-rydd.

“Be’ sydd wedi cael ei benderfynu o fewn yr Herald Cymraeg, yn hytrach na chael gwared ar y ddau ohonon ni a chadw dau, ein bod ni’n mynd bob yn ail.”

“Gwneud y gorau o’r sefyllfa”

Golygydd yr Herald, Tudur Huws Jones, sydd wedi gorfod “gwneud y gorau o’r sefyllfa,” meddai Rhys Mwyn, gan sicrhau’r drefn newydd yn hytrach na dileu dau golofnydd.

“Efo’r Herald, rydan ni i gyd efo’n darllenwyr ac mae nifer ohonyn nhw’n mwynhau’r amrywiaeth barn, felly dw i’n credu bod ni wedi llwyddo i beidio colli hynny.

“Dydi hi’n amlwg ddim yn sefyllfa y buaswn i’n dymuno nachdi; mae o’n gwneud y gorau o’r sefyllfa.”

Fe ddywedodd hefyd y bydd cynnydd yn nifer y geiriau ym mhob colofn – gyda 1,000 o eiriau bob tro.

Doedd neb o’r Daily Post ar gael i siarad â golwg360 neithiwr.