Henry Ayabowei (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn o Fangor wedi pledio’n euog i ddynladdiad gŵr a thad i ddau o blant o Langefni.

Ymddangosodd Keiran Terrance Roberts, 26 oed, gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug y bore yma gan bledio’n euog i’r cyhuddiad.

Cafwyd hyd i Henry Ayabowei, 27 oed, o Langefni yn anymwybodol y tu allan i glwb nos Peep ym Mangor ar 1 Ebrill 2017 a bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei deulu wedi ei ddisgrifio yn “ŵr annwyl” a thad i ddwy o ferched gan ddweud bod eu byd “wedi’i ddistrywio.”

Yn eu datganiad mae’r teulu yn diolch am “help a chefnogaeth” y gymuned ac am gael “cyfiawnder i Henry, fel na fydd Kieran Roberts yn gallu lladd eto.”

Mae disgwyl i Kieran Roberts gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar Hydref 2.